Clara Barton | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1821 Oxford, Massachusetts |
Bu farw | 12 Ebrill 1912 Glen Echo, Maryland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | nyrs, dyddiadurwr, dyngarwr, athro, dyngarwr, awdur, ysgrifennwr |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Tad | Stephen Barton |
Mam | Sarah Stone |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Neuadd Enwogion New Jersey, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland |
llofnod | |
Nyrs arloesol o'r Unol Daleithiau oedd Clarissa "Clara" Harlowe Barton (25 Rhagfyr 1821 – 12 Ebrill 1912) a sefydlodd y Groes Goch yn America.
Roedd yn nyrs ysbyty yn Rhyfel Cartref America, yn athrawes ac yn glerc cleifion. Nid oedd addysg nyrsio wedi'i ffurfioli ar y pryd ac nid oedd Clara wedi mynychu'r ysgol nyrsio, felly roedd yn darparu gofal nyrsio hunan-addysg. [1] Mae Barton yn nodedig am wneud gwaith dyngarol ar adeg pan mai nifer gymharol fach o fenywod oedd yn gweithio y tu allan i'r cartref.[2]